Show more of yourself or your company here.

Do you have more to say and show? You can do this in this section. Add pictures and a short description to show visitors more of whatever it is you want.

Add a description here.

Cyfrifon

P'un a ydych chi'n Fasnachwr Unigol, yn Bartneriaeth neu'n Gwmni Cyfyngedig gallwn eich helpu i baratoi a dadansoddi cynnwys eich Cyfrifon a'ch helpu chi i gael y gorau ohonnynt.

Dylai paratoi cyfrifon arwain yn y pen draw at eich dealltwriaeth o sut mae'ch busnes yn datblygu i roi'r data sydd ei angen arnoch chi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.

Rydym yn darparu hyn trwy ddarparu gwybodaeth ddadansoddol a fydd yn caniatáu cynllunio ymlaen llaw. Os ydych yn defnyddio dull digidol o gadw cofnodion, er engraifft, taenlenni, meddalwedd cadw llyfrau neu gyfrifo cwmwl, neu os ydych yn dewis dod â datganiadau banc, llyfrau siec ac anfonebau atom; gallwn weithio gyda chi i ddarparu profiad cyflym, di-drafferth wrth baratoi eich cyfrifon.

Hefyd, os nad ydych eisoes yn defnyddio llwyfannau digidol, byddem yn hapus i'ch cyflwyno i dechnoleg ddigidol sydd wedi'i chynllunio i symleiddio a lleihau'r drafferth o gael eich cofnodion atom.

Gallwn eich cynghori ar sut i gynllunio ymlaen llaw er mwyn lleihau eich dyled treth.

Rydym yn cynnig cyngor diderfyn ac nid ydym yn codi tâl am bob ymgynghoriad. Felly gyda dull cyfeillgar, anffurfiol, ynghyd â gwasanaeth dwyieithog a gwaith o'r safon a'r ansawdd uchaf, beth am fanteisio ar ein deugain mlynedd a mwy o brofiad a rhoi galwad i ni heddiw. 

Treth Ar Werth (TAW)

Gallwn dynnu'r baich o'r gofynion newydd sy'n ymwneud â Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW.  Gyda'n defnydd o raglenni cyfrifiadurol gallwch ddod â'ch anfonebau i mewn i’r swyddfa bob chwarter a gadael i ni ddelio gyda hwy.

Talu Wrth Ennill (TWE) a CIS

Os ydych yn gyflogwr ac yn gweld bod eich cyflogau wythnosol neu fisol yn achosi anhawsterau i chi, gallwch droi atom.  Gallwn brosesu eich Cyflogres, eich diweddaru â gofynion Gwybodaeth Amser Real yn ogystal â sicrhau eich bod yn cwrdd â'ch rhwymedigaethau pensiwn yn y gweithle, ac anfon slipiau cyflog a dogfennau at eich staff – gellir hyn ei wneud yn electronig neu ddim.

Rydym hefyd yn delio â nifer o gyflogresi Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) ac yn cwrdd â'r gofynion cyflwyno ar gyfer y rhain, gan gynnwys ffurflenni CIS300 misol a CIS ar ddiwedd y flwyddyn.

Treth Enillion Cyfalaf a Chynllunio ar gyfer Treth Etifeddiant 

Ydych chi'n ystyried gwerthu'ch cartref, busnes neu gyfranddaliadau? A ydych wedi meddwl am Dreth Enillion Cyfalaf wrth wneud hynny? Mae'r Dreth yma yn berthnasol mewn achosion o’r fath ond yn cael ei anwybyddu yn aml. Gallwn eich cynghori ar achosion o'r math yma a’r swm i’w dalu, yn ogystal â pha ryddhadau a allai fod ar gael i chi.

Gallwn hefyd eich cynghori ynghylch a oes gennych faterion cynllunio treth etifeddiant a'ch arwain sut i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath.

Treth Gorfforaeth, Ffurflenni Treth Cyfrifon Cwmni

Os ydych chi'n gwmni Cyfyngedig neu'n ystyried ymgorffori, gallwn eich cynghori ar wneud hynny. Yn ogystal, gallwn ffurfio'ch Cyfrifon Cwmni, eich cynghori ar dâl Cyfarwyddwr a chyflwyno'ch Ffurflen Dreth Gorfforaeth Diwedd y Flwyddyn yn ddigidol. Gallwn hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich rhwymedigaethau i gyflwyno datganiadau Cyfrifon a Chadarnhad i Dŷ'r Cwmnïau.

Cynllunio Trethi, Ffigurau Rhagamcanol ac Ymchwiliadau

Rydym hefyd yn delio â blaengynllunio treth i'ch galluogi i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer gofynion y gyllideb. Mae hon yn elfen sy'n tueddu i gael ei hymgorffori trwy amryw o elfennau ein gwaith. Gallwn hefyd eich helpu i fodloni gofynion eich banciau neu fenthycwyr a allai fod angen ffigurau rhagamcanol ymlaen llaw.

Mae gennym hefyd brofiad o ddelio ag unrhyw ymchwiliadau y gallech eu derbyn gan Gyllid a Thollau EM, boed hynny mewn perthynas â'r gyflogres, cyfrifon busnes neu'ch materion treth personol.

Gwasanaethau erill

Mae ein gwasanaethau yn cynnwys nifer o agweddau eraill, o ddelio â gohebiaeth gan Gyllid a Thollau EM, eich hysbysu am y datblygiadau diweddaraf o ran gwneud treth yn ddigidol neu newidiadau i’r ddeddfwriaeth, i'ch helpu i lenwi ffurflenni mewn perthynas â chredydau treth neu fenthyciadau myfyrwyr.